Mae heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi arestio pum dyn dan amheuaeth o daflu cyffuriau dros wal Carchar y Parc.

Ar ddydd Sadwrn (Ebrill 18) cafodd Kurtis Clancy, 21, o Oldham a Dean Heney, 28, o Fanceinion eu harestion dan amheuaeth o daflu eitemau gwaharddedig dros wal y carchar.

Bydd y ddau ddyn yn mynd gerbron Llys y Goron Caerdydd ar Fehefin y cyntaf.

Ac yn oriau mân ddydd Mawrth (Ebrill 28) arestiodd swyddogion dri dyn dan amheuaeth o’r un drosedd.

Byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar Fehefin 11.

“Mae cyffuriau, ffonau symudol, ac eitemau gwaharddedig eraill yn peri risg i staff yn ogystal â charcharorion,” meddai’r Ditectif Arolygydd Sarah Trigg.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda staff carchardai i roi stop ar y math yma o weithgaredd, aflonyddu’r criwiau sy’n gyfrifol, ac arestio’r bobl gan ddod a nhw gerbron y llysoedd.”