Mae Cymru “mewn perygl mawr” o golli ei ffatrïoedd a’r holl swyddi yn y sectorau cynhyrchu, yn ôl pennaeth undeb.

Daeth y rhybudd gan Peter Hughes, ysgrifennydd Unite yng Nghymru, wrth iddo roi tystiolaeth i Bwyllgor Economi’r Cynulliad ddoe.

Gyda gweithwyr ffatrïoedd Cymru’n wynebu caledi oherwydd argyfwng Covid-19, dywedodd y bydd yn rhaid cymryd gofal pan ddaw’r argyfwng i ben.

“Y broblem sydd gyda ni yw ein bod mewn perygl mawr yng Nghymru o golli’r rhan fwyaf o’n sectorau cynhyrchu,” meddai.

“Rhaid i ni wneud yn siŵr mai Cymru yw’r lle mwyaf deniadol [i gwmnïau cynhyrchu], a bod gyda ni’r gweithlu gorau, gyda’r sgiliau uchaf, yn Ewrop…

“Dylwn fod yn dweud hynny’n uchel a gyda balchder. Os na wnawn ni hynny, fydd yna ddim swyddi cynhyrchu ar ôl yng Nghymru i’n plant, ac os na fyddwn yn ofalus, i blant ein plant.”

Ffatrïoedd yng Nghymru

Mae hanner gweithlu ffatri creu darnau awyrennau Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, adref o’u gwaith ar ‘furlough’ – hynny yw, yn methu a gweithio oherwydd Covid-19 ond yn derbyn canran o’u cyflog.

Mae hynny’n golygu bod tua 3,200 o’r gweithlu yn aros adref.

Hefyd, mae ffatri geir Ford ym Mhen-y-Bont ar Ogwr ar gau dros dro oherwydd y coronafeirws. Mae Unite yn cynrychioli staff yn y ddwy ffatri.

Bydd y ffatri yn cau yn barhaol ar ddiwedd y flwyddyn ac mae disgwyl i 1,700 golli eu swyddi.