Mae arbenigwr ar garchardai wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei bod yn “hynod o gywilyddus” bod nifer y carcharorion yng Nghymru wedi cynyddu, a hynny ar adeg pan mae’r nifer wedi gostwng yn Lloegr oherwydd ofnau am ledaenu Covid-19 mewn llefydd cyfyng.

Mae Dr Robert Jones o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn edrych ar y ffigyrau diweddaraf am garchardai.

Mae ei ymchwil yn dangos mai carchar Abertawe yw’r mwyaf gorlawn yng Nghymru a Lloegr.

Capasiti’r carchar yn y de yw 250 – ond mae 415 yn cael eu cadw yno.

 

Carchardai gorlawn Cymru

Carchar CNA* Poblogaeth 03/20 Cyfradd
Berwyn 1,865 1,820 98%
Caerdydd 522 691 132%
Parc (Pen-y-bont ar Ogwr) 1,559 1,667 107%
Abertawe 250 415 166%
Brynbuga/Prescoed 363 511 141%
Cyfanswm 4,459 5,104 114%

*Certified normal accommodation – faint gall y carchar ei ddal cyn gorlenwi (ystadegau Llywodraeth Prydain)

“Cywilydd mawr”

Yn ystod cyfnod pan mae haint hynod heintus ar led, ac o ystyried bod Covid-19 yn ffynnu mewn llefydd cyfyng, mae Dr Robert Jones yn bryderus am yr hyn allai ddigwydd.

“[Dylwn] deimlo cywilydd mawr am hyn,” meddai.

“Rhwng Chwefror a Mawrth, rydym yn gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio llunio ymateb i Covid-19.

“Roedd hi’n ystyried cwymp yn y boblogaeth [sydd dan glo], ac ymdrechion i leihau carchardai gorlawn, yn allweddol i hynny – mae hi’n dal i ystyried hynny’n allweddol.

“Mae’r ffaith ei bod wedi cynyddu [yng Nghymru] yn ddatblygiad eitha’ trawiadol o ystyried bod polisi penodol wedi bod i leihau’r nifer o bobol mewn carchardai.

“Mi welsom [leihad yn nifer y carcharorion] dros Gymru â Lloegr gyda’i gilydd, ac mi welsom hynny yn Lloegr. Ond yng Nghymru ar ei phen ei hun, bu cynnydd.”

Covid yn y carchardai

Mae 304 o achosion o Covid-19 wedi’u cadarnhau yng ngharchardai Cymru a Lloegr, ac mae 25% o’r rheiny yng Nghymru. Dim ond 6% o boblogaeth carchardai ‘Cymru a Lloegr’ sydd yn y wlad hon.

Ydy Cymru yn cael ei defnyddio fel ‘penal colony’?

Y darlun cyflawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg