Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi pryder ar ôl i 3,200 o weithwyr Airbus ar safle Brychdyn gael eu rhoi ar gennad yn sgil y coronafeirws.

Mae eu pencadlys yn Ffrainc, ond mae gan y cwmni safleoedd hefyd ym Mryste, yr Almaen, yr Unol Daleithiau, Canada, Sbaen a Tsieina.

Maen nhw’n cyflogi oddeutu 135,000 o bobol ar draws y byd, a 6,000 ar safle Brychdyn.

Daeth cadarnhad fod yr adroddiadau’n gywir gan lefarydd ar ran y cwmni.

Mae golwg360 yn deall bod cytundeb yn ei le ag undeb i sicrhau dull graddol o gyflwyno’r mesurau, ac y bydd cyflogau gros yn cael eu cynyddu o 85-90% yn ddibynnol ar gyflogau unigol y gweithwyr.

Bydd cyfnodau’r gweithwyr ar gennad yn dechrau yn ystod y tair wythnos nesaf, ac yn para o leiaf dair wythnos.

‘Meddyliau gyda’r gweithwyr’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Russell George, llefarydd economi a busnes y Ceidwadwyr Cymreig, fod ei feddyliau gyda’r gweithwyr.

“Mae’r argyfwng Covid-19 (coronafeirws) wedi gweld gostyngiad aruthrol yn nifer yr awyrennau fu’n gweithredu dros yr wythnosau diwethaf ac a fydd yn gweithredu, gallwn ddisgwyl, am y dyfodol rhagweladwy,” meddai.

“Mae hyn wedi cael effaith ar archebion newydd ar gyfer awyrennau, nid yn unig o ran Airbus, ond ei brif gystadleuydd, Boeing hefyd.

“Heddiw, fodd bynnag, mae fy meddyliau  i a’m cydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig, gyda’r miloedd o weithwyr Airbus yng Nghymru sydd wedi’u heffeithio, a’r miloedd yn rhagor yn y gadwyn gyflenwi.

“Rydym yn edrych ymlaen at yr adeg pan fydd y cwmni gwych hwn yn ôl yn cynhyrchu’n llawn, ac yn parhau i fod yn gyfrannwr mawr i gyfoeth ac economi Cymru.”