Mae wyth yn rhagor o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael prawf positif am y coronafeirws, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau i 796, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Roedd 203 yn rhagor o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19, sy’n golygu bod nifer yr achosion wedi cynyddu i 9,280 yng Nghymru, yn ôl ICC.

Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod ’na dystiolaeth sy’n awgrymu bod nifer yr achosion newydd o Covid-19 yn dechrau sefydlogi, ac y gallai hynny fod oherwydd effeithlonrwydd y cyfyngiadau presennol.

“Serch hynny, mae’n rhy gynnar i ddweud ac yn rhy gynnar i ddod a diwedd i’r rheolau ymbellhau cymdeithasol presennol,” meddai.