Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gyhoeddi adroddiad i fethiant Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gofnodi 84 marwolaeth o ganlyniad i’r coronafeirws yng Ngogledd Cymru.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford dderbyn casgliadau ymchwiliad i’r digwyddiad yn ddiweddarach heddiw (Dydd Llun, Ebrill 27).

Cafodd yr ymchwiliad ei lansio ar ôl iddo ddod i’r amlwg fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi methu cofnodi’r marwolaethau.

Ddydd Iau (Ebrill 23), dywedodd y bwrdd iechyd fod 84 o bobl wedi marw ar draws gogledd Cymru rhwng Mawrth 20 ac Ebrill 22.

Achosodd hyn y cynnydd dyddiol mwyaf ers i’r pandemig gyrraedd Cymru ym mis Mawrth.

Dywed y bwrdd iechyd fod pob marwolaeth coronafeirws wedi cael ei gofnodi’n gywir, gan feio problemau gyda rhannu data.

“Gwall cyfrifiadurol”

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton ar BBC Radio Wales heddiw: “Pan ddechreuodd y pandemig yng Nghymru’n gynharach yn y flwyddyn, cyflwynodd Gymru system electronig newydd i’r byrddau iechyd ei ddefnyddio.

“Penderfynodd Betsi Cadwaladr beidio defnyddio’r system yna, gan ddefnyddio un arall. Dyna pan mae yna wall wedi bod yn y broses, sydd bellach wedi cael ei gywiro.”

Mae Plaid Cymru wedi galw am “eglurhad brys,” tra bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am wneud yr adroddiad yn gyhoeddus “er mwyn adfer hyder y cyhoedd.”

Wrth siarad ar raglen Politics Wales Y BBC ddydd Sul (Ebrill 26) dywedodd Mark Drakeford: “Rwyf wedi gofyn am gael adroddiad ar fy nesg erbyn yfory (Dydd Llun) fel fy mod yn gallu sicrhau fod unrhyw ddiffygion yn cael eu datrys.

“Dw i angen gwybod, ac mae pobl Cymru angen gwybod, bod modd dibynnu ar y ffigyrau ac rwyf yn disgwyl i hyn gael ei gadarnhau yfory.”

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wed bod dan fesurau arbennig ers 2015.