Wythnos ar ôl cerdded 91 o weithiau o gwmpas ei gartref i nodi ei benblwydd yn 91, mae’r arian yn dal i lifo i gronfa apêl Rhythwyn Evans.

Mae’r gŵr oedrannus o Silian ger Llanbed bellach wedi codi bron i £40,000 at Apêl Covid-19 y bwrdd iechyd lleol, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

“Y Capten Tom Moore oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r syniad,” meddai ei fab Dai Charles Evans. “Fe wnaeth rhai o’r wyrion wedyn ofyn iddo ‘pam na wnewch chi rywbeth tebyg Tadcu?’ Fe wnaethon ni benderfynu wedyn y byddai’n ffordd dda iddo gael dathlu ei benblwydd o dan yr amgylchiadau presennol, ac yn ffordd o ddangos ein gwerthfawrogiad o waith gweithwyr iechyd.”

Doedd cerdded o amgylch ei gartref ddim yn dasg anodd iawn i Rhythwyn, sy’n byw mewn tŷ ar dir fferm Dai, Tan y Graig, yn y pentref.

“Mae’n ddyn iach a heini iawn o’i oed ac mae’n galw heibio inni bob bore cyn 8 o’r gloch i gael golwg ar y stoc,” meddai Dai. “Felly doedd cerdded o amgylch ei gartref ddim gymaint â hynny o sialens gorfforol iddo. Ond roedd anawsterau hunan-ynysu yn cyfyngu ar y dewis o weithgareddau y gallai eu gwneud.

“Roedd wedi codi am 5.30 ar fore ei benblwydd, ac eisoes wedi cerdded 21 o weithiau o amgylch y tŷ cyn ei frecwast am 7.30. Roedd yn rhaid inni ei arafu wedyn, gan ein bod yn gwybod bod eraill o’r teulu a ffrindiau yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth iddo.

“Hoffai pawb ohonom fel teulu ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi a chodi’r arian at Fwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae’n fraint i fedru gwneud rhywbeth a fydd o fudd i’r holl weithwyr sydd ynghlwm â churo’r epidemig arswydus hwn.”