Mae dyn 33 oed o ardal Casnewydd wedi cael ei gyhuddo o geisio lladd plismon a gafodd ei drywanu yn oriau mân bore Iau.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd fore heddiw, dydd Sadwrn 25 Ebrill.
Dioddefodd y rhingyll 47 oed anafiadau i’w abdomen wrth ymateb i adroddiad o anhrefn yn St Vincent Lane yn y ddinas yn oriau mân bore Iau.
Mae’r dyn sydd wedi ei gyhuddo, ac nad yw wedi ei enwi, hefyd wedi cael ei gyhuddo o gynnau tân bwriadol gyda bwriad o beryglu bywyd ac o ymosod ar blismon arall.
Mae’r rhingyll yn dal mewn cyflwr difrifol ond yn gwella yn Ysbyty Brenhinol Gwent.
Meddai llefarydd ar ran yr heddlu mewn datganiad neithiwr:
“Ddydd Iau 23 Ebrill fe wnaeth plismyn ymateb i adroddiad o anhrefn mewn cyfeiriad yn St Vincent Lane yng Nghasnewydd.
“Yn ddiweddarach, fe wnaeth plismyn arestio dyn 33 oed o’r ardal ar amheuaeth o geisio llofruddio plismon a chynnau tân bwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.
“Heno [nos Wener 24 Ebrill] cafodd y dyn 33 oed ei gyhuddo o’r troseddau hyn yn ogystal ag o ymosodiad adran 18 yn erbyn plismon arall.”