Pan ddaw’r amser i wneud hynny, dylai’r cyfyngiadau coronafeirws gael eu codi ym mhob rhan o Gymru ar yr un pryd.

Dyna ddywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wrth annerch y wasg brynhawn heddiw, ac wedi iddo ddatgelu manylion ynghylch sut bydd cyfyngiadau, yn y pendraw,  yn ysgafnhau.

“Dyw’r syniad o godi’r cyfyngiadau ar sail daearyddiaeth ddim yn fy nenu’n syth,” meddai.  “Oherwydd dw i wedi sôn am y pwysigrwydd o gyfleu pethau’n glir.

“A phe bae gennych chi set wahanol o fesurau ym Mhowys o gymharu â Chastell Nedd Port Talbot, er enghraifft, byddai hynny tipyn yn wahanol i bobol ei ddilyn. Byddai’n drefn anodd ei orfodi.

“Ac am y rhesymau yma – er bod y feirws yn cyrraedd rhannau gwahanol o Gymru ar amseroedd gwahanol – dw i’n credu mai’r ateb yw bod Cymru’n symud yn un wrth godi’r cyfyngiadau.”

Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi sôn am sut mae’r feirws yn symud o’r dwyrain i’r gorllewin, ac o’r de i’r gogledd, ac mae ffigurau’n adlewyrchu hynna.

Goleuadau traffig

Bellach mae wedi dod i’r amlwg y bydd sustem goleuadau traffig mewn grym yng Nghymru.

Y cyfnod coch bydd y cyfnod llymach, gyda Chymru’n symud at gyfyngiadau oren, ac yna gwyrdd, wrth i’r sefyllfa wella.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoedd rheolau newydd a fydd yn dod i rym ddydd Sadwrn.

  • Bydd rheol ‘cadw pellter 2m’ mewn grym mewn safleoedd ‘clicio a chasglu’
  • Bydd diffiniad ‘person bregus’ yn cael ei ehangu
  • Bydd rheolau cadw pellter mewn grym mewn caffis ysbytai ac ati, a ffreuturau

Tanseilio?

Mae Mark Drakeford wedi sôn droeon am ei awydd i gydweithio gyda gweddill y Deyrnas Unedig wrth ymateb i’r argyfwng – er gwaetha’r cyhuddiad ei fod ond yn dilyn San Steffan.

Ac yn y gynhadledd heddiw cododd sawl cwestiwn ynghylch y penderfyniad i gyhoeddi rheolau gwahanol i’r rheiny yn Lloegr.

Dywedodd yntau bod dim peryg o “danseilio” y strategaeth o weithredu’n un Deyrnas Unedig.

“Trwy rannu ein syniadau … dw i’n credu bydd hynny’n ein helpu i gymryd camau ymlaen, gan ddeall beth mae pob un arall yn ei wneud,” meddai.

“Dyna fy uchelgais o hyd. Mae cyhoeddi’r fframwaith, i fi, yn cyfrannu at gryfhau’r ymdrech o weithio [gyda’n gilydd yn y Deyrnas Unedig.”