Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Gweinidog Iechyd o dorri sawl un o’r rheolau gweinidogol, ac wedi galw unwaith eto am ei ddiswyddiad.

Mewn llythyr i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae Arweinydd y Blaid, Adam Price, yn honni bod Vaughan Gething wedi torri rheolau yng nghyfarfod llawn ddoe.

Yn ystod y sesiwn ddigidol honno methodd y gweinidog a diffodd ei meicroffon, ac ar ddamwain rhannodd ei farn am y cyd-AC Llafur, Jenny Rathbone, â’r genedl.

Roedd ei iaith yn lliwgar, ac mae’n debyg yr oedd yn gwyntyllu wedi iddo dderbyn cwestiynau caled gan Aelod Cynulliad Canol Caerdydd.

Mae Vaughan Gething bellach wedi ymddiheuro, a gofynnodd golwg360 i Jenny Rathbone am sylw. Doedd hi ddim am wneud hynny.

Y llythyr

“Roedd defnydd y Gweinidog Iechyd o iaith fychanol – yn ystod cyfarfod lawn a oedd yn cael ei ffrydio’n fyw – yn groes i gymalau 1.1 a 1.2 y cod gweinidogol,” meddai Adam Price yn ei lythyr.

“Does dim dwywaith amdani. Mae’r cod yn gofyn bod gweinidogion yn cynnal safonau urddas a phroffesiynoldeb, ac yn trin eraill â sensitifrwydd a pharch.

“Mae’n bosib y byddai modd esbonio’r rheg, o ystyried y pwysau aruthrol mae unrhyw weinidog sy’n arwain ymateb y llywodraeth i’r argyfwng presennol, yn ei wynebu.

“Fodd bynnag, mae tôn ymosodol y gweinidog tuag at aelod o’i blaid ei hun – a oedd yn codi pryderon hollol deg – yn adlewyrchu ei wrthwynebiad – i sgriwtini ac atebolrwydd yn gyffredinol.”

Y cod

Mae Plaid Cymru yn honni bod Vaughan Gething wedi ymddwyn yn groes i’r paragraffau isod o god y gweinidogion.

1.1)  Disgwylir i Weinidogion Llywodraeth Cymru gynnal safonau ymddygiad uchel ac ymddwyn mewn modd sy’n cynnal y safon uchaf o ran priodoldeb.

1.2)  Dylai’r Gweinidogion fod yn broffesiynol ym mhopeth y maent yn ymwneud ag ef a dylent drin pawb y maent yn dod i gysylltiad â hwy yn ystyriol a chyda pharch. Dylai’r berthynas waith gyda gweision sifil, Gweinidogion eraill, cydweithwyr a staff yn y Cynulliad fod yn weddus ac yn briodol. Nid yw aflonyddu, bwlio nac ymddygiad amhriodol neu wahaniaethol arall yn gyson â Chod y Gweinidogion ac ni fyddant yn cael eu goddef.

1.3 iii)  Dylai’r Gweinidogion fod mor agored â phosibl gyda’r Cynulliad a’r cyhoedd, ac ni ddylent wrthod darparu gwybodaeth heblaw mewn achosion lle na fyddai datgelu’r wybodaeth honno o fudd i’r cyhoedd. Wrth benderfynu ynghylch hyn, dylid ymgynghori â’r statudau perthnasol a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.