Rhaid cynllunio ar gyfer y “senario gwaethaf” yn y gogledd a’r gorllewin, yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru.

Bellach mae achosion o coronafeirws wedi’u cofnodi ym mhob rhan o’r wlad, ac mae cannoedd wedi marw ar ôl dal yr haint.

Mae mwyafrif o’r marwolaethau a’r achosion wedi’u cofnodi yn ne ddwyrain Cymru, gydag ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan (ardal Gwent) ar y brig.

Ond er bod y gogledd a’r gorllewin wedi eu heffeithio’n llai difrifol hyd yma, mi all y sefyllfa newid cryn dipyn yno, yn ôl Dr Phil White.

“Rhaid cynllunio ar gyfer y senario gwaethaf,” meddai wrth Golwg. “Hynny yw, y byddem ni’n dioddef yr un peth ag Aneurin Bevan.

“Ond fel mae pethau’n edrych ar y foment falle bydd hwnna ddim yn digwydd. Ond allwn ni ddim cymryd hynna’n ganiataol.”

Mae’n ategu llawer am y clefyd yn anhysbys, a bod ansicrwydd o hyd ynghylch pam bod rhai ardaloedd wedi ei chael hi’n waeth nag eraill.

Gofid yn y gogledd

Ag yntau’n feddyg teulu yn y Felinheli, mae’n dweud yr oedd ganddo bryderon mawr am y gogledd ar ddechrau’r argyfwng, ac mae’n tynnu at yr hyn a wnaeth esgor ar y pryder.

“Y peryg mwyaf oedd gennym ni, o’n i’n meddwl, oedd y penwythnos pan wnaethon nhw gau’r ysgolion, a daeth hanner poblogaeth Lloegr i ogledd Cymru,” meddai.

“A dyna le oeddwn i’n poeni y byddai hwnna wedi ei ledaenu. Ond mae hwnna dros dair wythnos yn ôl yn awr, a dydyn ni ddim wedi gweld spike.

“Felly croesi bysedd falle ein bod ni wedi osgoi’r gwaethaf ohono fo.”

Mi allwch ddarllen rhagor am hyn yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.

Tabl yr achosion

Bwrdd Iechyd Marwolaethau * Achosion *
Aneurin Bevan

(Gwent)

213 1,885
Betsi Cadwaladr

(Gogledd Cymru)

** 941
Caerdydd a’r Fro 146 1,934
Cwm Taf Morgannwg

(Rhan helaeth o’r Cymoedd)

147 1,429
Hywel Dda

(Dyfed)

** 608
Powys ** 145
Bae Abertawe

(Abertawe, Castell-Nedd a Phort Talbot)

122 1,275
Cyfanswm 641 8,289

* Roedd y wybodaeth uchod yn gywir ar Ebrill 22

** Mae’r ffigurau yma’n rhy isel i’w cofnodi