Mae Mark Drakeford wedi ymateb yn chwyrn i adroddiadau bod tanau gwair bwriadol wedi’u cynnau mewn rhannau helaeth o’r de.

Daw ei sylwadau yn dilyn adroddiadau gan Wasanaeth Tân ac Achub y De eu bod nhw wedi gorfod delio hefo “nifer uchel o danau bwriadol” neithiwr (nos Lun, Ebrill 20).

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi troi at Twitter i gondemnio’r digwyddiadau.

“Mae’r arwyr sydd yn gweithio i’n gwasanaethau brys gyda digon ar eu platiau,” meddai.

“Mae gweithredoedd disynnwyr fel hyn yn rhoi nid yn unig diffoddwyr tân mewn perygl difrifol, ond hefyd pobl sy’n dioddef o gyflyrau anadlol- gan gynnwys coronafeirws. Aros adref.”

“Dau dân anferth”

Yn ôl y gwasanaeth tân, cawson nhw eu galw i sawl achos o danau gwair bwriadol yn y Rhondda nos Lun.

“Dau dân anferth, peryglus yn y Rhondda heno,” meddai Shelley Rees-Owen, cynrychiolydd ward Pentre ar Gyngor Rhondda Cynon Taf ar ei chyfrif Twitter, ynghyd â fideo o’r mwg.

“Un yn Ystrad a’r llall yn Ton Pentre. Hofrennydd uwchben. Erioed wedi gweld mwg o’r fath. Pam?”

Buodd y gwasanaeth tân hefyd yn Llechryd ger Ffordd Blaenau’r Cymoedd, Comin Llantrisant a Mynydd Llangynidr, Tredegar.

Yn ogystal â hyn, roedd yna adroddiadau o danau yng ngogledd Cymru hefyd nos Lun, pan gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân yng Nghoed Pen-y-garth ger Corwen.