Does dim penderfyniad eto ynghylch cefnogaeth o fath gwahanol i’r sector gofal plant yng Nghymru yn sgil y coronafeirws, yn ôl Gwenllian Lansdown Davies, prif weithredwr y Mudiad Meithrin.

Cafodd cyfarfod ei gynnal ddoe (dydd Llun, Ebrill 20) rhwng aelodau o fudiad CWLWM â’r Dirprwy Weinidog Julie Morgan, er mwyn trafod y gefnogaeth bellach sydd ei hangen ar y sector gofal plant.

Casgliad o bum mudiad yw CWLWM, gyda’r Mudiad Meithrin yn brif sefydliad. Mudiadau ‘Cwlwm’ yw Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Mudiad Meithrin, National Day Nurseries Association (NDNA Cymru) a PACEY.

Y cyfarfod oedd cyfle mudiadau CWLWM i fynegi eu pryderon ac egluro sefyllfa’r sector o fewn yr argyfwng presennol, ond does dim penderfyniad wedi ei wneud eto ynglŷn â’r camau nesaf.

Problemau

Yn ôl CWLWM, heb gefnogaeth bellach, fydd hi ddim yn bosib i’r sector gofal plant gynnal ei hun, na pharhau i gynnig y gofal plant fydd yn angenrheidiol i’r economi sylfaenol yn y tymor canolig a’r hirdymor.

Mae’r sector wedi gweld problemau gydag argaeledd y cynllun yn enwedig ei berthnasedd, gan wybod na fydd y Cynnig Gofal Plant, heb ffioedd rhieni, yn ddigon i dalu cyflogau staff.

Problem arall, yn ôl CWLWM, yw diffyg dealltwriaeth ‘Busnes Cymru’ o’r sector. Mae darparwyr gofal plant yn cael eu heithrio o un grant ar ôl y llall, felly does dim cefnogaeth ariannol ar gael i’w digolledu yn wyneb diffyg incwm.

Sector unigryw

Mae’n debyg nad ydi darparwyr gofal plant yn ffitio’n daclus o fewn y categorïau sydd yn eu gwneud nhw’n gymwys i dderbyn y cymorth ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd.

“Beth sydd yn amlwg ydi bod gwahanol adrannau o fewn Llywodraeth Cymru yn meddwl fod yna gefnogaeth ar gael, ond be’ dydyn nhw ddim yn ei ddeall, neu falle eu bod nhw’n deall yn well rŵan, ydi fod yna resymau sydd yn eithrio darparwyr gofal plant fel Cylchoedd Meithrin rhag cael mynediad at y ffynonellau gwahanol yna o gefnogaeth,” meddai Dr Gwenllian Lansdown, Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin wrth golwg360.

“Mae gen ti un gronfa Cadernid Economaidd er enghraifft, mae’n nhw’n ein cyfeirio ni at honno, ond mae’n rhaid i ti fod hefo cofrestriad Treth ar Werth, ond wrth gwrs mae unrhyw un sydd yn darparu addysg wedi eu heithrio rhag orfod talu Treth ar Werth.

“Yna, hefo’r gronfa ar gyfer y sector elusennol mae’n rhaid i ti fod wedi cael dy gyfansoddi fel elusen, math arbennig o elusen o’r enw Sefydliad Corfforedig Elusennol, a dim ond rhyw 25% o Gylchoedd Meithrin sydd a’r statws yna.

“Felly mae ’na gefnogaeth ar gael ond mae yna hefyd resymau cwbl ddilys pam fod y mwyafrif o ddarparwyr gofal plant yn methu cymryd mantais o’r ffynonellau amrywiol yma.”

Yn ôl Dr Gwenllian Lansdown mae angen cydnabod fod y sector gofal plant yn sector unigryw gan nad ydyn nhw’n fusnesau ond mae’n rhaid iddyn nhw fod yn hyfyw er mwyn medru aros ar agor, felly eu teimlad nhw yw fod angen cymorth mwy penodol ar gyfer y sector hwn.

“Mae’n nhw’n gweithio ychydig bach fel elusennau” meddai.

“Ond dydi pobol ddim yn meddwl amdanyn nhw fel elusen draddodiadol.

“Maen nhw yno i ddarparu gofal ond ddim i wneud elw, ond mae’n rhaid iddyn nhw wneud digon o arian er mwyn gallu talu rhenti a thalu cyflogau.

“Felly mae ’na gymhlethdodau fan hyn sydd ddim yn bodoli mewn sectorau eraill.”