Mae Heddlu’r De wedi arestio dyn 20 oed yng Nghaerdydd o dan y Ddeddf Frawychiaeth.

Cafodd y dyn ei arestio mewn tŷ yn ardal Cyncoed fore dydd Sul (Ebrill 19) ar ôl i gymydog gysylltu â’r heddlu.

Dywed Heddlu’r De fod y dyn wedi cael ei arestio o dan Adran 5 y Ddeddf Frawychiaeth 2006, ar amheuaeth o gymryd rhan neu baratoi gweithredoedd brawychol.

Cafodd hefyd ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar heddwas.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad ar y cyd gyda swyddogion o Uned Eithafiaeth a Gwrthfrawychiaeth Cymru.

“Does dim angen i’r gymuned leol ofidio a does dim tystiolaeth i awgrymu fel arall,” meddai pennaeth Uned Eithafiaeth a Gwrthfrawychiaeth Cymru, Noel Harris.

“Fodd bynnag, rwyf eisiau cymryd y cyfle hwn i atgoffa ein cymunedau i fod yn wyliadwrus ac adrodd unrhyw ofidion er mwyn sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn le saff i fyw.”