Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddau o bobol yn Abertawe sydd wedi marw yn sgil y coronafeirws.

Roedd Brian Mfula yn ddarlithydd “ysbrydoledig” ym maes nyrsio iechyd meddwl ym mhrifysgol y ddinas ac yn dad i bedwar o blant, tra bod Jenelyn Carter yn weithiwr iechyd “â chalon euraid” oedd yn gweithio yn Ysbyty Treforys.

Brian Mfula

“Mae myfyrwyr wedi disgrifio Brian fel athro ysbrydoledig ac eilun oedd yn dysgu o’r galon, ac roedd e’n angerddol am iechyd meddwl a nyrsio,” meddai’r Athro Ceri Phillips, pennaeth coleg gwasanaethau dynol ac iechyd.

“Roedd Brian hefyd yn cael ei adnabod fel dyn teulu ymroddedig, ac estynnwn ein meddyliau a’n gweddïau i’w wraig Mercy a’i blant – Kato, Nkweto, Thabo a Thandiwe yn sgil eu colled drasig.”

Jenelyn Carter

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi talu teyrnged i Jenelyn Carter.

Roedd hi’n gweithio ar uned derbyniadau Ysbyty Treforys, ac roedd ei “holl gydweithwyr a chleifion yn ei charu”.

“Byddai Jenelyn yn mynd ymhell y tu hwnt i’r galw ar ran unrhyw un, ac roedd hi’n berson hyfryd, cariadus ar y tu mewn a’r tu allan, ac roedd ganddi galon euraid,” meddai Mark Madams, cyfarwyddwr nyrsio’r ysbyty.

“Rydym yn torri ein calonnau yn sgil ei marwolaeth ac yn estyn ein cydymdeimlad i’w theulu a’i ffrindiau.”