Mae San Steffan wedi cyhoeddi £95m ychwanegol i helpu Cymru yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.
Fel rhan o becyn cymorth sydd newydd gael ei gyhoeddi heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 18), mae Llywodraeth Prydain wedi neilltuo gwerth £330bn o fenthyciadau, cynllun cynnal swyddi, strategaeth cyfarpar diogelu personol a chefnogaeth filwrol.
Daw’r cyhoeddiad fel rhan o hwb ariannol i gynghorau Lloegr, sydd wedi’i gyhoeddi gan Robert Jenrick, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol San Steffan.
Mae’n golygu bod Cymru bellach wedi derbyn bron i £2bn ers dechrau ymlediad y feirws, ac mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad diweddaraf.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru, gan roi’r arian sydd ei angen arnyn nhw i ateb yr her eithriadol hon,” meddai.
Mae’n dweud bod Llywodraeth Prydain yn parhau i “wneud beth bynnag mae’n ei gymryd i sicrhau bod pawb yng Nghymru’n gallu cael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw”.
‘Ochr yn ochr’
“Safwn ochr yn ochr â llywodraeth leol a’m blaenoriaeth i yw sicrhau eu bod nhw’n cael eu cefnogi fel y gallan nhw barhau i gefnogi eu cymunedau drwy’r amser heriol yma,” meddai Robert Jenrick.
“Gweithwyr cyngor yw’r arwyr tawel wrth i ni herio’r feirws yma.
“Maen nhw yn y rheng flaen yn yr ymdrechion i gadw’r cyhoedd yn ddiogel a chyflwyno’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobol.
“Dyw hyn erioed wedi bod yn bwysicach ac rydym oll, yn briodol iawn, yn ddiolchgar am bopeth maen nhw’n ei wneud.”