Mae Lesley Griffiths, Gweinidog Amaeth Cymru, wedi croesawu’r penderfyniad i atal cyfreithiau cystadleuaeth y diwydiant amaeth dros dro yn sgil y coronafeirws.

Mae’r diwydiant yn teimlo’r ergyd o gau’r sector bwyd ac o addasu’r gadwyn gyflenwi a phrisiau’r farchnad.

Bydd y cyfreithiau newydd, sy’n berthnasol i holl wledydd Prydain, yn galluogi mwy o gydweithio yn y sector llaeth er mwyn mynd i’r afael â’r heriau presennol.

Cafodd y penderfyniad i atal y cyfreithiau dros dro ei drafod mewn cyfarfod o gynrychiolwyr y sector yr wythnos hon.

“Mae Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar y sector bwyd a’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig, ac un o’r sectorau cyntaf i brofi’r effaith hon oedd ein sector llaeth,” meddai Lesley Griffiths.

Egluro’r penderfyniad

“Dyna pam yr ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar unwaith, gan bwysleisio bod angen i ni gydweithio fel llywodraethau i ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael i ddiogelu cadwyn gyflenwi sector bwyd-amaeth y DU a lliniaru’r effaith ddifrifol y mae’r argyfwng hwn yn ei chael ar ein cynhyrchwyr a’n proseswyr,” meddai wedyn.

“Mae llacio’r gyfraith gystadlu ar gyfer y sector hwn yn newyddion da iawn a bydd yn galluogi’r diwydiant i gydweithio i fynd i’r afael â’r heriau a wynebir ar hyn o bryd o ganlyniad i bandemig Covid-19, gan helpu busnesau fferm a phrosesu yng Nghymru’n uniongyrchol.

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos â’r holl sectorau amaethyddol i’w helpu i ddelio â’r materion y maent yn eu hwynebu yn y cyfnod anodd hwn.”