Mae Heddlu’r Gogledd yn atgoffa ymwelwyr i gadw draw o gefn gwlad – gan feirniadu adroddiadau ‘anghyson’ yn y cyfryngau ar deithio mewn ceir i ymarfer corff.

“Mae gogledd Cymru ar gau i ymwelwyr ar hyn o bryd,” meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki.

“Nid yw gyrru i’r Parc Cenedlaethol a llecynnau eraill o harddwch arbennig i gerdded neu ymarfer yn cael ei ystyried yn deithio hanfodol.

“Nid yw teithio i’ch ail gartref yn hanfodol chwaith. Y cyngor gan lywodraethau Prydain a Chymru yw y dylai ymarfer corff gael ei wneud yn lleol gan ddefnyddio llefydd yn agos i’ch cartref lle bo’n bosib.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr allweddol eraill yn gwneud gwaith anhygoel yn cadw’r cyhoedd yn ddiogel, ond gofynnwn ichi ystyried yn bydd cynyddu poblogaeth ein hardal yn gosod baich afresymol arnyn nhw. Ni ddylai’r heddlu fod yn gorfodi synnwyr cyffredin.”

Galw am adolygu canllawiau

Mae ei sylwadau’n ategu beirniadaeth hallt o i ganllawiau gan heddluoedd Cymru a Lloegr a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau.

Mae’r Rhwydwaith Cenedlaethol Trosoeddu Gwledig (NRCN), sy’n cynrychioli comisiynwyr heddlu â chyfrifoldeb am ardaloedd gwledig, yn galw am adolygiad o’r canllawiau.

Mae’r canllawiau yn ei gwneud yn glir ei bod yn gyfreithlon gyrru i rywle i ymarfer corff.

Pryder yr NRCN yw y bydd y cyngor yn cael ei ddehongli fel rhwydd hynd i deithio i gefn gwlad.

Meddai Julia Mulligan, cadeirydd yr NRCN a chomisiynydd heddlu a throseddu Gogledd Swydd Efrog:

“Y brif neges gan y llywodraeth a gwyddonwyr yw bod angen inni aros adref.

“Mae’r canllawiau hyn yn mynd yn erbyn hyn yn llwyr ac yn rhwystr yn yr ymdrechion i rwystro pobl rhag teithio i’n cymunedau gwledig a lledaenu’r feirws.

“Mae angen adolygiad ar frys o’r canllawiau newydd hyn a byddaf yn cael trafodaethau gyda gweinidogion, y Coleg Plismona, arweinwyr heddlu a’m cyd-gomisiynwyr yn y dyddiau nesaf.”