Mae’r dringwr Joe Brown, a oedd yn cael ei adnabod fel ‘The Human Fly’ a’r ‘Meistr’, wedi marw, a sawl un wedi bod yn talu teyrnged iddo.

Caiff Joe Brown ei adnabod fel un o ddringwyr gorau ei genhedlaeth ac roedd yn arloeswr yn y maes.

Fe fu farw yn 89 oed yn Llanberis.

Yn y 1960au bu yn gyfrifol am boblogeiddio’r gamp o ddringo mynyddoedd Eryri.

Roedd yn un o frîd newydd o ddringwyr Prydeinig a oedd yn dod o gefndir dosbarth gweithiol, yn wahanol i’r dringwyr proffesiynol dosbarth canol ag uwch oedd wedi dominyddu’r byd dringo cyn yr Ail Ryfel Byd.

Ef oedd y cyntaf erioed i ddringo trydydd mynydd uchaf y byd, Kangchenjunga ar Fai 25 1955.

Ac mae’n debyg mai efo oedd y cyntaf o wledydd Prydain i ddringo’r Himalayas.

Yn ogystal â chreu llwybrau arloesol, helpodd i greu mathau newydd o warchodaeth er mwyn gwella diogelwch dringwyr ar y graig.

Dod i Eryri

Cafodd ei eni ym Manceinion, ond symudodd i Lanberis ac agor siop offer ddringo yno yn 1966, gan wneud yr ardal yn un o lefydd pwysicaf y byd dringo yn ystod 1960au a 1970au.

Agorodd ddwy siop arall yn yr ardal hefyd.

Mae’r darlledwr Dei Tomos yn dweud bod Joe Brown yn ddyn “uchel ei barch fyddai pawb yn y gymuned yn gwrando arno.

“Roedd o’n gymeriad hoffus iawn, yn ddringwr penigamp ac roedd pobl yn rhyfeddu ato am ei fod o wedi gwneud gymaint.

“Roedd o’n gwneud pethau fasa neb arall yn meddwl eu gwneud yn y byd dringo.

“Mae hefyd yn bwysig cofio mai ef oedd un o’r unig rai fyddai’n rhoi enwau Cymreig ar lefydd yr oedd wedi eu dringo.”