Mae’r corff Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 506 wedi marw o feirws y corona – gydag 11 o’r marwolaethau hynny wedi eu cofnodi yn y 24 awr diwethaf.

Erbyn hyn mae 6,645 wedi cael prawf positif am y feirws, gyda 244 o achosion newydd wedi eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.

Drwyddi draw mae 20,066 wedi eu profi am yr haint, a 13,421 wedi cael gwybod nad oes ganddyn nhw’r feirws.