Mae cynghorydd o Bowys wedi dweud wrth golwg360 bod perchnogion tai haf yn gallu manteisio ar amwysterau yn y gyfraith, er mwyn hawlio miloedd o bunnau sydd i fod i helpu busnesau bach Cymru.

“Mae’r sefyllfa yn hollol boncyrs ac yn warthus,” meddai Elwyn Vaughan.

Mae perchnogion ail gartrefi yn medru dewis talu trethi busnes – yn hytrach na threth y cyngor – os ydyn nhw’n rhentu’r adeilad am o leiaf 70 diwrnod y flwyddyn.

A phryder Elwyn Vaughan, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Powys, yw bod y perchnogion yma’n medru ceisio am arian sydd i fod i fynd at fusnesau sydd dan straen oherwydd coronafeirws.

Yng Nghymru mae busnesau sydd yn cyflogi llai na naw o bobol yn medru ceisio am grantiau £10,000 fel rhan o becyn £1.1bn y Llywodraeth.

“Hollol boncyrs”

“Mae eisoes wedi dod i’r fei bod rhai perchnogion tai haf yn manteisio ar amwysterau’r gyfraith er mwyn troi eu tai haf mewn i fusnesau,” meddai Elwyn Vaughan, “a hynny i osgoi talu treth y cyngor.

“Ar ben hynny mae busnesau bach gwerth llai na £6,000 yn talu llai o drethi. Trefniant y Llywodraeth yw hynny. Felly dyw [perchnogion tai haf] ddim yn talu cyfraddau busnes chwaith.

“Ac yn awr, oherwydd cyfrifeg greadigol, maen nhw’n medru derbyn grant cefnogaeth busnes – oherwydd y feirws – o £10,000 yr un. Mae’r sefyllfa yn hollol boncyrs ac yn warthus.”

Mae’r cynghorydd yn dyfalu y gall o leiaf 250 o dai haf ym Mhowys fanteisio ar y sefyllfa yma.

“Cyfraniad gwerthfawr”

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gyllid, y Cynghorydd Aled Davies: “Mae gennym oddeutu 650 o letyau gwyliau ym Mhowys sydd wedi cael eu hasesu fel busnesau bach gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac felly’n gymwys i gael Rhyddhad Cyfradd Busnesau Bach.

“Mae’r busnesau hyn sy’n cynnwys prosiectau arallgyfeirio ffermydd, cabanau gwyliau ac ail gartrefi wrth eu gosod, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i dwristiaeth a’n heconomi leol. Mae’r cyngor yn defnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru ar asesu a thalu’r grant busnes o £10,000 ac ar hyn o bryd mae hyn yn cynnwys dyfarnu grantiau i fusnesau yn y sector sy’n gymwys i gael Rhyddhad Cyfraddau Busnesau Bach.

“Mater i Lywodraeth Cymru yw penderfynu sut mae unrhyw fylchau yn eu cynllun yn cael eu datrys. Os canfyddir bod unrhyw grantiau wedi’u talu trwy gamgymeriad neu drwy dwyll, gallwn ei hawlio yn ôl a byddwn yn ceisio gwneud hynny.”

“Tystiolaeth”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gan Awdurdodau Lleol ddisgresiwn eisoes ynglŷn â dyfarnu grantiau cymorth busnes a gallant ei gwneud yn ofynnol i berchnogion busnes ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi eu cais.

“Yn dilyn trafodaethau gydag awdurdodau lleol, rydym wedi diwygio ein canllawiau i egluro’r meini prawf y mae’n rhaid i fusnesau hunanarlwyo eu bodloni i fod yn gymwys i gael grant a’r mathau o dystiolaeth y gall awdurdodau lleol ofyn amdanynt i sefydlu bod busnes yn gymwys.”