Mae teyrngedau wedi cael eu talu i weithiwr ysbyty fu farw ar ôl profi’n bositif am coronafeirws.

Bu farw Andy Treble, oedd yn gymhorthydd theatr ysbyty yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ddydd Mercher (Ebrill 15) ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws, meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Disgrifiodd ei chwaer, Maria Molloy, ei brawd, a fuodd yn gweithio yn yr ysbyty am 40 o flynyddoedd, fel “dyn caredig” wnaeth roi ei fywyd i’w waith ac oedd “wastad gyda gwen ar ei wyneb.”

“Roedd Andy wrth ei fodd yn gweithio ym Maelor, ei gydweithwyr oedd ei ail deulu,” meddai.

“Roedd o wastad yn gwenu a chwerthin, roedd yn ddyn mor dda.”

Dywed ei ferch, Emily Treble ei bod hi’n “falch i’w alw’n fy nhad.”

“Mae o wedi fy helpu drwy gymaint, ac roedd o wastad yno i mi,” meddai.

“Roedd o bob tro’n yn codi fy nghalon drwy wylio Laurel and Hardy gyda’n gilydd. Roedd o mor glen, mor gariadus a bydd yn cael ei fethu am byth.”