Mae golwg360 wedi cael ar ddeall bod fandaliaid wedi torri mewn i Gapel Salem yng Nghaernarfon gan ei ddifrodi a’i ladrata.

Ymysg yr eitemau gafodd eu dwyn mae system sain y capel, meicroffonau, ceblau, desg gymysgu, a hanner cit drymiau.

Gadawyd llanast mawr mewn rhannau o’r capel megis y festri, ystafell y diaconiaid, y gegin, ac ystafell y bobl ifanc yng nghefn y festri a chafodd y floorboards eu codi mewn rhai llefydd.

Capel Salem wedi’i ddifrodi

Dywed y Parchedig Mererid Mair, sydd yn gyd-weinidog ar y capel gyda’i thad, y Parchedig Ron Williams, bod “oglau mwg a chwrw” yn y festri.

Bu criw fforensig yr heddlu yn y capel am bedair awr yn casglu tystiolaeth a dywed y Parchedig Mererid Mair ei bod hi’n “ddiolchgar am eu gwaith gwych.”

“Oglau mwg a chwrw yn y festri”

“Mae’n gwneud i mi deimlo’n ddigalon bod unrhyw un wedi gallu gwneud y fath beth,” meddai.

“Roedd y lle yn iawn pan fuodd ein gofalwraig ni yno ddydd Iau diwethaf, ond pan aethon ni yno ddydd Mercher roedd rhywun wedi blocio ffenestri o’r tu fewn ac wedyn gweld y llanast ’ma.

“Roedd yna oglau mwg a chwrw ar y festri, oglau parti.”

Dywed y Parchedig Mererid Mair bod trysorydd y capel bellach wedi cysylltu gyda’u cwmni yswiriant er mwyn cael iawndal ond nad oes ganddynt syniad beth yw gwerth y difrod.

“Mae honno yn broses anodd, rydym ni’n gorfod disgwyl am adroddiad trosedd a phethau felly,” meddai.

Ond gyda’r capel eisoes wedi gorfod talu am ddiogelu’r drysau, am saer coed ac i geisio llogi offer newydd, mae’r digwyddiad eisoes wedi bod yn ergyd ariannol iddynt.

“Dio ddim yn mynd i fod yn hawdd, ond rydym yn ddiolchgar i’r heddlu, yr ofalwraig ac am y negeseuon clên ’da ni wedi eu derbyn,” meddai’r Parchedig Mererid Mair.