Bydd £1m yn rhagor o gyllid yn cael ei roi i wasanaeth sy’n darparu cymorth iechyd meddwl i staff y Gwasanaeth Iechyd.
Mae ‘Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol’ yn gwasanaethu doctoriaid, nyrsys, deintyddion, therapyddion a pharafeddygon.
Ac mi fydd y cyllid yn galluogi i’r gwasanaeth gyflogi rhagor o seiciatryddion ac ymgynghorwyr.
Prifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol amdano, ac mi fydd meddygon sydd wedi ymddeol – ond sydd am helpu’r ymdrech yn erbyn covid-19 – ac academyddion ymhlith y staff newydd.
Mae’r gwasanaeth yn darparu sesiynau cwnsela wyneb i wyneb ac adnoddau ar-lein, ac mae hefyd ganddo linell gymorth.
“Cyfnod heriol iawn”
“Iechyd a lles ein holl staff ymroddedig yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sydd bwysicaf drwy’r amser, ond yn arbennig yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn,” meddai Vaughan Gething y Gweinidog Iechyd.
“Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i ofalu amdanyn nhw.
“Bydd y £1m o gyllid rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i ehangu’r gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol yng Nghymru fel ei fod yn gallu ymdopi â’r galw ychwanegol gan staff y Gwasanaeth Iechyd.”