Mae dwsinau o weithwyr wedi gallu dychwelyd i’w gwaith yn sgil ymdrech i sicrhau deunydd hanfodol i weithwyr y GIG.

Ar ddiwedd mis Mawrth llwyddodd Llywodraeth Cymru a chael gafael ar ddigon o frethyn i fedru cynhyrchu 2,500 gwisg feddygol yr wythnos.

Cafodd y brethyn ei drosglwyddo i Alexandra, cwmni sydd yn cynhyrchu gwisgoedd meddygol, a bellach mae busnesau Cymreig yn helpu â’r gwaith yma.

ELITE Clothing Solutions, yng Nglyn Ebwy; Brodwaith, Ynys Môn; a Workplace Worksafe, yn Rhuthun; yw’r tri chwmni dan sylw. Mae hyn wedi galluogi i ryw 40 o weithwyr ddychwelyd i’w gwaith.

“Ymladd yr argyfwng”

Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi bod ynghlwm â’r ymdrech yma, ac wedi canmol “gofalwyr iechyd arwrol” Cymru.

“Rydym yn gweithio’n galed i gyflenwi’r GIG gan ei fod yn rhoi gofal o safon uchel i bobl sydd â’r coronafeirws, a byddwn yn parhau i wneud hynny,” meddai.

“Rydym hefyd wedi gweld cyfle i sicrhau cyflenwad o’r defnydd oedd angen mawr amdano, a dod â thair menter o Gymru at ei gilydd i ymuno â ni i ymladd yr argyfwng iechyd cenedlaethol hwn.”