Mae Dr David Hepburn o Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd wedi datgelu ar gyfryngau cymdeithasol fod y pum claf cyntaf wedi’u rhyddhau o ofal dwys yn yr ysbyty.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sydd yn cwmpasu Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Torfaen a Sir Fynwy sydd wedi gweld y nifer uchaf o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, ac mae’r sefyllfa yno wedi ei gymharu gan arbenigwyr i’r hyn sydd wedi’i weld yn yr Eidal.

Dywedodd yr ymgynghorydd gofal dwys ar ei gyfri Twitter:  “Mae ganddyn nhw ffordd i fynd cyn gwella’n llwyr, ond maen nhw’n ddiogel.”

Mae David Hepburn hefyd wedi dioddef o’r firws ar ôl ei ddala gan gydweithiwr, ac mae wedi apelio i’r cyhoedd i ddilyn canllawiau’r llywodraeth er mwyn atal y firws rhag lledu ymhellach.

Dydd Sul, Ebrill 12 daeth hi’n amlwg fod tua hanner staff uned frys Ysbyty Brenhinol Gwent wedi’u heintio â’r coronafeirws, yn ôl fideo Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Y Ffigurau diweddaraf

Mae cyfanswm o 5,848 o achosion wedi’u cadarnhau yng Nghymru hyd yn hyn, ond mae’r ffigwr gwirioneddol yn debygol o fod dipyn yn uwch.