Mae miloedd o lythyrau yn rhybuddio pobl sydd â chyflyrau iechyd difrifol i aros gartref yn ystod pandemig coronafeirws wedi cael eu hanfon i’r cyfeiriadau anghywir.
Mae tua 75,000 o bobl yng Nghymru mewn perygl uwch o’r coronafeirws ac fe’u cynghorwyd gan Brif Swyddog Meddygol Cymru i aros gartref am 12 wythnos.
Ond danfonwyd 13,000 o’r llythyrau i gyfeiriadau blaenorol y derbynwyr.
“Camgymeriad trychinebus”
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Lywodraeth Leol Delyth Jewell, “Mae hwn yn gamgymeriad trychinebus a allai beryglu bywydau yn ddiangen.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru “problem brosesu” oedd ar fai, ac maen nhw wedi ymddiheuro am y camgymeriad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “Oherwydd nam prosesu o fewn Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, cafodd rhai llythyrau eu postio i gyfeiriadau blaenorol.”
“Rydym yn deall y pryder mae hyn wedi achosi i bobl, ac yn ymddiheuro am y camgymeriad.”