Mae 19 yn rhagor o bobol wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws yng Nghymru, yn ôl y ffigurau dyddiol diweddaraf.
Mae’n golygu bod cyfanswm o 403 o bobol wedi marw yma ers dechrau’r ymlediad.
Daeth cadarnhad fod 238 o achosion newydd, sy’n mynd â’r cyfanswm cenedlaethol i 5,848.
Ond mae’r ffigwr yn debygol o fod yn uwch na hynny mewn gwirionedd.