Mae pryderon cynyddol ynglŷn â’r coronafeirws mewn carchardai, ar ôl i ddata newydd ddangos bod mwy o bobol nag erioed dan glo yng Nghymru.

Yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, cyrhaeddodd nifer y bobol sydd mewn carchardai yng Nghymru ei lefel uchaf erioed fis diwethaf.

Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod mwy yn cael eu carcharu yng Nghymru nag yn Lloegr – 163 o bob 100,000 yng Nghymru o’i gymharu â 139 yn Lloegr.

Oherwydd y coronafeirws, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan fis diwethaf y byddai rhai carcharorion yn cael eu rhyddhau’n gynnar er mwyn osgoi gorlenwi.

Er hyn, mae’r data diweddaraf yn dangos mai carchar Abertawe oedd yr un a gafodd ei orlenwi fwyaf o blith carchardai Cymru a Lloegr gyda’i gilydd fis diwethaf.

Ymateb i anghenion carcharorion sydd wedi eu rhyddhau

Dywedodd Dr Robert Jones, awdur yr adroddiad mai pandemig COVID-19 yw’r “her fwyaf” carchardai yng Nghymru erioed, a bod angen i asiantaethau a gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli ymateb yn gyflym i anghenion cartrefedd a gwasanaethau carcharorion sydd newydd eu rhyddhau.

“Tanlinella’r data carchardai diweddaraf, yr angen am dryloywder pellach ynglŷn â’r ymateb i Covid-19 mewn carchardai yng Nghymru,” meddai.

“Unwaith eto datgelwyd darlun yma o stad carchardai sydd wedi’u gorlenwi, gyda chyfradd carcharu afreolaidd o uchel yng nghyd-destun gorllewin Ewrop.

“Mae angen ymateb cynhwysfawr sydd wedi’i ariannu’n gywir, er mwyn sicrhau bod tai, gofal iechyd a gwasanaethau cymorth boddhaol a digonol ar gael i garcharorion sydd newydd eu rhyddhau.

“Mae’n hanfodol bod llywodraethau Cymru a San Steffan yn rhoi’r asiantaethau priodol a gwasanaethau cyhoeddus ar waith, er mwyn sicrhau bod carcharorion sydd newydd eu rhyddhau yn gallu ailadeiladu eu bywydau ar adeg pan fo’r gymdeithas y byddan nhw’n cael eu rhyddhau iddi yn wynebu chwalfa na welwyd mo’i debyg o’r blaen.”