Mae Vaughan Gething wedi cadarnhau bod achosion o’r coronafeirws mewn 75 o gartrefi gofal yng Nghymru.

Yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Cymru, mae 217 o achosion posib hefyd.

Mae’r ffigurau’n ymwneud â 1,073 o gartrefi gofal yng Nghymru, ac mae’n dweud bod 128 o brofion wedi cael eu gorchymyn yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Ond mae’n dweud y bydd ffigurau’r Swyddfa Ystadegau yn gallu rhoi darlun cliriach pan fyddan nhw ar gael, ond fod oedi cyn gallu cael ffigurau manwl gywir, gyda’r rhai diweddaraf yn cynnig data hyd at Ebrill 3 yn unig.

Diffyg cyfarpar ar gyfer cartrefi gofal

Ac mae’n dweud bod y galw yn Lloegr am gyfarpar diogelu personol yn golygu bod prinder cyfarpar yng Nghymru.

Fe bwysleisiodd yn y gynhadledd fod angen i Gymru allu cael ei “siâr” o’r cyfarpar, ac y dylai gwledydd Prydain gydweithio er mwyn sicrhau bod digon o gyfarpar ym mhob un o wledydd Prydain.

Fe ddywedodd hefyd y dylid rhannu’r cyfarpar sydd ar gael yn hafal ym mhob rhan o wledydd Prydain, a bod hynny’n golygu croesi ffiniau daearyddol.

Profi gweithwyr iechyd

Yn y cyfamser, mae’n dweud bod gan Gymru’r capasiti i gynnal mwy o brofion nag sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd – ond fod rhaid i achosion gael eu cyfeirio yn y modd priodol cyn bod modd cynnal profion.

“Mae profion ar gael ar gyfer staff gofal cymdeithasol sydd angen cael eu profi,” meddai.

“Mae capasiti yn y system ar hyn o bryd i gyflwyno rhagor o brofion ar gyfer staff gofal cymdeithasol rheng flaen.

“Rwy’n annog yr holl awdurdodau lleol i gyflwyno enwau’r holl staff gofal cymdeithasol sydd angen prawf.

“Rwy’n gofidio nad ydyn ni bob amser yn defnyddio’r holl brofion sydd ar gael.”

Mae’n dweud ei fod e wedi gofyn i’w staff gydweithio â Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod pawb sydd angen prawf yn ei gael “cyn gynted â phosib”.