Mae llawfeddyg y galon yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd wedi marw ar ôl cael ei heintio â’r coronafeirws.

Daeth cadarnhad o’i farwolaeth ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Roedd yn gweithio yn yr ysbyty canol y 1990au, ac fe ddychwelodd i’r ysbyty yn 2006 ar ôl gweithio dramor am gyfnod.

Bu farw yn uned gofal dwys yr ysbyty, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Teyrnged

“Roedd e’n llawfeddyg eithriadol o ymroddgar oedd yn gofalu’n fawr iawn am ei gleifion,” meddai’r neges ar wefan y bwrdd iechyd.

“Roedd pawb yn ei hoffi a’i barchu’n fawr.

“Roedd e’n dosturiol iawn ac yn fod dynol hyfryd.

“Roedd ei ymrwymiad i’w arbenigedd yn rhagorol.”

Mae’n gadael gwraig a dau fab.

Y feirws ‘ddim yn parchu pobol’

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi talu teyrnged iddo.

“Newyddion trist ofnadwy,” meddai wrth y BBC.

“Meddyg uchel iawn ac uchel iawn ei barch yma yng Nghymru.

“Ac mae’n dweud wrthym, on’d yw e, nad yw’r feirws yma’n parchu pobol na lle, a dyna pam ei fod mor bwysig ein bod ni’n gwneud popeth allwn ni i warchod ein gilydd rhag ei effeithiau.”