Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Nia Griffith, wedi cael ei phenodi yn Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid.

Mae Aelod Seneddol Llanelli yn un o dri AS Llafur o Gymru yng nghabinet cysgodol arweinydd newydd y blaid Keir Starmer.

Roedd Nia Griffith wedi bod yn ysgrifennydd amddiffyn cysgodol y blaid ac yn llefarydd Cymru yr wrthblaid bedair blynedd yn ôl o dan arweiniad Jeremy Corbyn.

Mae Jo Stevens, AS Caerdydd Canolog wedi ei phenodi yn ysgrifennydd digidol, diwylliant, y cyfryngau a chwaraeon cysgodol y blaid.

A chafodd AS Torfaen Nick Thomas-Symonds ei benodi’n ysgrifennydd cartref cysgodol ddoe (dydd Sul, Ebrill 5).

Dywedodd Nia Griffith bod cael ei phenodi i gabinet cysgodol Keir Starmer yn “fraint” a’i blaenoriaeth fyddai “cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi ymateb i her sylweddol pandemig y coronafeirws.”