Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 12 marwolaeth newydd yng Nghymru o ganlyniad i’r coronafeirws.

Mae’n golygu bod y cyfanswm bellach yn 166.

Mae 355 o achosion newydd wedi’u cadarnhau, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw i 3,197.

Dyw’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir oherwydd y ffordd mae profion yn cael eu cynnal.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, maen nhw wedi cynnal mwy na 14,000 o brofion ar bron i 12,000 o bobol ers dechrau’r ymlediad, ac maen nhw’n rhybuddio bod y feirws bellach ym mhob rhan o’r wlad.

Maen nhw wedi ychwanegu eu llais at yr alwad ar i bobol gadw at reolau ymbellháu cymdeithasol a pheidio â mynd allan oni bai bod rhaid – ac maen nhw’n atgoffa pobol fod y rheolau wedi’u cyhoeddi ar eu gwefan.