Daeth cadarnhad fod Richard Tudor, ffermwr adnabyddus o Lanerfyl, wedi marw’n 45 oed.
Bu farw ffermwr Llysun – lle cafodd y gyfres ‘Lleifior’ ei ffilmio – brynhawn ddoe (dydd Gwener, Ebrill 3) yn dilyn damwain, yn ôl y neges.
“Yn anffodus collwyd dyn anhygoel prynhawn ddoe mewn damwain tractor,” meddai’r neges ar Twitter.
Yn dilyn cyhoeddiad y teulu, mae llu o deyrngedau wedi’u rhoi iddo.
Yn anffodus collwyd dyn anhygoel prynhawn ddoe mewn damwain tractor. Roedd Dad/ Rich yn ddyn caiff byth ei anghofio a bydd o hyd gwacter hebddo. Roedd on golygu cymaint I cymaint ohonom ni a bydden I gyd yn methu ei brwdfrydedd ai garedigrwydd. @CatrinTudor pic.twitter.com/iQkHNjFxeI
— Richard Tudor (@RichTudorLlysun) April 4, 2020
Mae’n gadael gwraig, Catrin, ei fab Morgan, sy’n 17 oed, a merch, Lois, sy’n 15 oed, yn ogystal â’i rieni, Ann a Tom Tudor.
Teyrngedau
Roedd y ffermwr Gareth Wyn Jones ac Elin Jones, Llywydd y Cynulliad, ymhlith y bobol gyntaf i roi teyrnged i Richard Tudor ar Twitter.
Colled greulon iawn i chi. Cofion atoch oll.
— Elin Jones (@ElinCeredigion) April 4, 2020
Meddwl amdach chi gid fel teulu .❤️❤️❤️
— Gareth Wyn Jones (@1GarethWynJones) April 4, 2020
Trist iawn i glywed hyn. Cydymdeimladau â phob un ohonoch yn eich galar.
— Mabon ap Gwynfor 🏴 (@mabonapgwynfor) April 4, 2020