Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am droi Cymru’n las fel teyrnged i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Mae’r ymgyrch ar lawr gwlad, sydd â’i gwreiddiau ym Mro Morgannwg yn ôl adroddiadau, yn annog pobol i glymu rhuban glas i oleuadau stryd, rheilings a meinciau parciau i ddiolch i staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau brys sy’n peryglu eu bywydau wrth fynd i’r afael â’r feirws.

“Ar yr adeg eithriadol hon, mae hi ond yn iawn ein bod ni’n dangos ein gwerthfawrogiad a’n diolchgarwch sylweddol i’r sawl sy’n gwneud gwaith eithriadol i’n cadw ni’n ddiogel ac i achub bywydau,” meddai Paul Davies.

“Lle bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, clymwch ruban y tu allan i’ch tŷ, neu ar eich gât, neu dynnwch lun a lliwiwch lun o enfys yn las i’w roi yn y ffenest blaen, unrhyw le lle gall ein staff Gwasanaeth Iechyd anhygoel yng Nghymru weld ein cefnogaeth iddyn nhw, a gadewch i ni droi Cymru’n las ar gyfer y Gwasanaeth Arwyr Gwladol.”