Mae mab dyn 81 oed fu farw o’r coronafeirws yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi beio diffyg profion a chyfarpar diogelu am farwolaeth ei dad, gan gyhuddo Llywodraeth Prydain o “aberthu cleifion a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd”.

Roedd Jeff Lavington yn gwella o strôc pan gafodd ei heintio ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty ar Chwefror 13.

Yn ôl Mark Lavington, 54 oed o Gaerfyrddin, roedd gan aelod o staff ar y ward lle’r oedd ei dad yn derbyn gofal symptomau’r feirws.

Er ei fod yn dweud y staff oedd yn gofalu am ei dad wedi gwneud “gwaith anhygoel”, mae’n dweud mai dim ond menyg, ffedog a mygydau oedd ganddyn nhw.

Ac mae’n dweud bod marwolaeth ei dad yn “ganlyniad uniongyrchol difrifol methiannau’r Torïaid” wrth brofi staff y Gwasanaeth Iechyd.

‘Siarad yn dda, ond gwneud dim’

“Fe wnaeth [Ysgrifennydd Iechyd San Steffan] Matt Hancock sefyll i fyny ar Ionawr 23 cyn bod gennym achosion difrifol yn y Deyrnas Unedig, gan sicrhau’r Tŷ a’r wlad fod gyda ni brawf eisoes ar gyfer y feirws, roedden ni’n barod i fynd, a bod gyda ni’r labordai gorau sy’n gallu herio’r feirws yma,” meddai.

“Ac mae e newydd fod ar y teledu yn dweud y bydd yr addewid wnaeth e ddoe o gael 100,000 o brofion bob dydd yn mynd i fod yn anodd iawn i’w gyflawni.

“Maen nhw wedi siarad yn dda, ond wedi gwneud dim.

“Nid yn unig mae’r Llywodraeth yn aberthu cleifion, ond hefyd aelodau’r Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol.”

‘Torcalonnus’

Yn ôl Matt Hancock, mae oddeutu 1,500 o weithwyr rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu profi bob dydd ers i ganolfannau agor dros y dyddiau diwethaf, ac mae’n mynnu bod y nifer “yn codi’n gyflym”.

Ond mae Mark Lavington yn dweud ei fod e’n “drist dros ben” ar ôl colli “tad a ffrind gorau” ar ôl bod yn gofalu amdano.

“Mae jyst yn ofnadwy gorfod marw yn yr ysbyty, heb fod wedi gweld unrhyw un ers diwrnodau, ac un alwad fideo fer oedd yr unig gyswllt gafodd e â’i deulu am bythefnos.

“Mae’n dorcalonnus, ac mae nifer o filoedd, degau o filoedd efallai, o bobol yn mynd trwy’r un peth oherwydd nad yw ein Llywodraeth yn rhoi trefn ar y profion.”

Canmol staff yr ysbyty

Treuliodd Jeff Lavington ei yrfa yn gweithio i gwmnïau olew ar draws y byd, ac fe fu’n brwydro am wella gofal iechyd yng ngwledydd Prydain.

Er ei fod yn feirniadol o Lywodraeth Prydain, dywed Mark Lavington fod y gofal gafodd ei dad yn Ysbyty Glangwili yn “anhygoel”.

Fe wnaethon nhw helpu ei dad i siarad â’i deulu mewn galwad fideo ychydig ddiwrnodau cyn iddo farw.

“Er eu bod nhw’n gwybod fod fy nhad wedi profi’n bositif am Covid-19, roedd dwy nyrs yn eistedd yn ei ymyl yn ei ddal e i fyny yn y gwely ac yn dal y ffôn drosto fe, fel y gallai weld ei wyres a’i ferch,” meddai.

“Roedden nhw’n gwneud hynny tra’n gwisgo menyg, ffedogau a mygydau wyneb, a dyna’r holl gyfarpar diogelu oedd ganddyn nhw.”

Ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Wrth ymateb, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cydymdeimlo â theulu Jeff Lavington, gan amddiffyn gwaith eu staff.

“Mae ein drws ar agor pe baen nhw am drafod unrhyw faterion am y gofal gafodd eu hanwylyd,” meddai Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Mae ein staff sy’n gweithio yn ein hysbytai yn gweithio’n galed dros ben ac yn addasu amgylchfydoedd a llwybrau gofal yn ystod y cyfnod eithriadol hwn, yn unol ag arweiniad arbenigol er mwyn cadw ein cleifion mor ddiogel â phosib.

“Mae ein staff wedi derbyn Cyfarpar Diogelu Personol ac yn defnyddio’r rhain yn unol â chanllawiau ac rydym wedi bod yn profi staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ers sawl wythnos.”