Mae un o Gomisiynwyr Heddlu Cymru wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg y bydd hi’n mynd yn gynyddol anoddach i gadw pobol yn eu tai wrth i’r cyfnod dan glo barhau.

Oherwydd y coronafeirws mae gofyn i bawb ynysu eu hunain yn eu cartrefi gymaint ag y gallan nhw, a dim ond mynd allan i siopa am fwyd sy’n angenrheidiol a gwneud dim mwy nag awr o ymarfer corff y tu hwnt i’w gerddi.

Does neb yn gwybod am faint fydd y lockdown yn para, ond mae sôn y bydd hi’n fisoedd o fyw dan warchae.

“Mae yna densiwn yn mynd i fod, yn fy marn i, o fewn ryw 10 diwrnod i bythefnos,” meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

“Fe fydd pobol yn teimlo eu bod wedi hunan ynysu am ddigon o amser ond, falle bod y wyddoniaeth a’r ystadegau yn dangos bod dal peryg allan yn y gymuned.

“Rwy’n rhagweld y bydd hi’n mynd yn anoddach wrth i’r wythnosau fynd heibio i gadw pawb yn dynn i’w tai.

“Rwy’n credu y bydd y cyhoedd yn disgwyl i bethau llacio. Ond os yw’r marwolaethau yn dal i gynyddu bydd y llywodraeth eisio tynhau.”

Yr heddlu’n hel pobol adref o Sir Benfro

 Ers i’r pandemig daro mae nifer o ymwelwyr a pherchnogion tai haf wedi bod yn heidio yma i gael lloches, ac mae Heddlu Dyfed Powys wedi bod yn ceisio atal y llif.

“Mae nifer o bobol yn dod i hunan ynysu mewn llefydd hyfryd gwledig yng Nghymru a ni wedi bod yn ymateb i hynny ac yn eu danfon nhw adref,” meddai Dafydd Llywelyn.

“Bu nifer o stop checks yn ardal Heddlu Dyfed Powys dros y penwythnos – rhai yn dod o Fryste a rhai o Gaerdydd i lawr i Sir Benfro. Dros 200 o gerbydau gwahanol yn cael eu troi yn ôl o Sir Benfro ddydd Sadwrn – sydd yn anfoddhaol yn fy marn i.”

Mwy gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg