Mae arweinydd Plaid Cymru ag arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies wedi ymuno â Grŵp Craidd Covid Llywodraeth Cymru.

Mae grŵp Covid y Cabinet yn cyfarfod bob bore Mercher. Mae’n derbyn adroddiadau am y datblygiadau diweddaraf gan y Prif Swyddog Meddygol, Prif Weithredwr GIG Cymru, y Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

“Mae’r Prif Weinidog wedi gwahodd arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru i ymuno â Grŵp Craidd Covid er mwyn sicrhau bod Aelodau Cynulliad yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ynglŷn â’r pandemig ac ymateb Llywodraeth Cymru,” meddai datganiad gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Er mwyn cydnabod y sefyllfa unigryw o ddifrifol yr ydym yn ei hwynebu, yr wyf wedi gwahodd arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru i ymuno â’r grŵp hwnnw.”

Dywed Adam Price y byddai Plaid Cymru wastad yn ceisio gweithio “mewn modd adeiladol ar y cyd gydag eraill” – yn enwedig mewn cyfnod o “argyfwng digynsail.”

Aeth ymlaen i ddweud mai blaenoriaeth Plaid Cymru yw “lles pobl Cymru” a sicrhau fod y wlad yn goresgyn yr argyfwng.

Tra bod Paul Davies wedi bod yn fwy ymosodol, gan ddweud: “Roeddwn yn falch i dderbyn gwahoddiad y Prif Weinidog i ymuno â’r grŵp covid. Fodd bynnag, fel rwyf wedi gwneud yn glir i’r Prif Weinidog, byddaf yn gadael y grŵp os bydd yn llesteirio fy ngallu i graffu’r Llywodraeth.”

“Ar ormod o achlysuron yn barod, mae Llywodraeth Cymru wedi bod ar ei hol hi, bydda i’n parhau i’w herio pan mae hyn yn wir.”