Bydd dros 6,000 o wlâu ychwanegol ar gael mewn ysbytai maes mewn canolfanau hamdden a stadiymau yng Nghymru.

Dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodwall wrth gynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd ei fod yn disgwyl pwysau “sylweddol” ar y gwasnaeth iechyd yn sgil y coronafeirws.

Bydd dwy fil o wlâu ar gael yn Stadwim Principality yng Nghaerdydd, dros 350 ym Mharc y Scarlets yn Llanelli, a nifer tebyg yn Venue Cymru yn Llandudno.

Daeth cyhoeddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Iau, Ebrill 2) bod 19 person arall wedi marw o’r feirws, gan ddod a’r cyfanswm i 117.

Mae 284 o achosion newydd wedi profi’n bositif am coronafeirws, sy’n golygu bod yna 2,121 o achosion yng Nghymru, er bod y gwir ffigwr yn debygol o fod dipyn yn uwch.

Dywed Dr Andrew Goodwall bod 573 o gleifion yn dioddef o’r feirws, a bod yno 399 o achosion dan amheuaeth mewn ysbytai yng Nghymru.

Disgrifiodd y sefyllfa fel “cyfnod anghyffredin” i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan frolio staff am eu hymateb “gwych.”

Mae ysbytai preifat yng Nghymru wedi cytuno i ddarparu 152 o wlâu ychwanegol, yn ogystal â chyfleusterau megis theatrau llawdriniaeth a chefnogaeth ddiagnostig.

Mae’r ddarpariaeth gofal dwys ar draws Cymru wedi cael ei gynyddu i 331 o wlâu, gydag oddeutu 55% ohonynt yn wag ar hyn o bryd.