Ar Ebrill y cyntaf 1985, syfrdanodd sioe Radio Cymru Stondin Sulwyn genedl gyfan wrth gyhoeddi y byddai Eisteddfod Genedlaethol 1991 yn cael ei chynnal yn America.

Daeth i’r amlwg mai jôc ffŵl Ebrill oedd hi ond roedd nifer fawr o’r Cymry wedi disgyn amdano ac yn gynddeiriog bod yr Eisteddfod yn symun mor bell.

“Mae’n rhaid imi gyfaddef nad fy syniad i oedd o,” meddai cyflwynydd y sioe, Sulwyn Thomas.

“Roeddwn i’n cael peint gydag ymchwilydd dros dro’r rhaglen, Geraint Glyn ac ein dyn sain, Ian Muxworthy a oedd wedi cael llond bol o drafod yr Eisteddfod.

“‘Pam wna nhw’m ei symud o i America?’ Meddai Ian, ac o fanno ddaeth y syniad.”

Llwyddodd y sioe i dwyllo pobl nid yn unig bod Eisteddfod 1991 yn cael ei chynnal yn America, ond mai Ronald Regan fyddai’r Llywydd, y byddai General Motors yn darparu’r Gadair a Coca Cola’n rhoi’r Goron.

“Roedd pobl yn dweud ei bod hi’n warthus fod yr Eisteddfod hyd yn oed yn cysidro’r peth ac mai dyna’r brad mwyaf posib ar yr iaith Gymraeg,” meddai Sulwyn Thomas.

Yn wir, aeth Cymdeithas yr Iaith mor bell a bygwth trais er mwyn rhwystro’r peth rhag digwydd.

“Roedd hi’n jôc Gymraeg fyddai ddim wedi gweithio yn unman arall, roedd y Cymry wedi cael ei dal a chwarae teg, roedd y rhan helaeth ohonynt yn fodlon cyfaddef hynny,” meddai Sulwyn Thomas.

“Mae pobl yn dal i son am y peth hyd heddiw, felly mae’n amlwg fod yr holl beth wedi cydio yn nychymyg pobl.”

Goreuon golwg360

Mae golwg360 hefyd wedi ceisio gwneud ambell Ffŵl Ebrill dros y blynyddoedd. Dyma ymgais wirion eleni:

https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/565839-cynllun-creadigol-gyfer-copar-wyddfa

A dyma rai o’r goreuon, gan gynnwys un credadwy iawn y llynedd…

https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/543159-theresa-wedi-cwblhau-cytundeb-phrynu-dolgellau

https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/182279-gobaith-am-werthu-sali-mali

https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/33553-william-a-kate-am-fyw-yng-nghastell-caernarfon

https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/259144-darganfod-esgyrn-ac-arfau-hynafol-yn-ogof-glyndwr