Fe fydd tafarn yng Ngheredigion yn cael hysbysiad gwahardd ar ôl i swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor Sir ddarganfod bod y dafarn wedi bod yn gweini alcohol i gwsmeriaid ac yn gweithredu yn ôl yr arfer ar nos Wener (Mawrth 27) a hynny er gwaetha cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae hyn yn mynd yn groes i Reoliadau Diogelu Iechyd yn sgil y coronafeirws a gafodd eu cyhoeddi yn ddiweddar.

Roedd y swyddogion wedi galw am gymorth yr heddlu, a bydd hysbysiad gwahardd nawr yn cael ei gyflwyno i’r landlord.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion bod arolygiadau gafodd eu cynnal gan swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd yn ystod yr wythnos wedi dangos bod y mwyafrif o fusnesau lleol wedi cau yn wirfoddol pan fu’n rhaid iddyn nhw wneud hynny yn unol â’r rheoliadau brys.

Mae busnesau eraill, sydd wedi cael caniatâd i wneud hynny, wedi arallgyfeirio o weini bwyd ar eu safleoedd i ddarparu prydau ar glyd neu wasanaeth dosbarthu bwyd.

Addasu

Mae safleoedd sydd wedi derbyn caniatâd i barhau ar agor wedi addasu i’r mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd y cyngor bod “mwyafrif helaeth y gymuned yn cydnabod pwysigrwydd mesurau brys yn ogystal â’r angen amdanyn nhw, ac wedi bod yn chwarae eu rhan yn fodlon.”

Cafodd dros 70 o safleoedd eu harolygu’r wythnos ddiwethaf, ond dim ond un safle a fethodd â dilyn y rheoliadau.

Cydymffurfio

Bydd swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor yn parhau i fonitro bod tafarndai yn cydymffurfio’r a’r rheoliadau, gyda chymorth Heddlu Dyfed Powys os yw hynny’n briodol.

Bydd busnesau a safleoedd sydd ddim yn cydymffurfio â’r rheoliadau yn derbyn hysbysiadau gwahardd a dirwyon, meddai’r cyngor.

Bydd busnesau sy’n parhau i fynd yn groes i’r mesurau yn cael eu gorfodi i gau. Mae’n bosib y gall unigolion a chwmnïau nad ydynt yn talu eu dirwyon gael eu dwyn i’r llys hefyd, a gall ynadon osod dirwyon diderfyn.