Mae’r cyn-Aelod Cynulliad William Powell yn ddifrifol wael ar ôl cael ei heintio gyda’r coronafeirws.

Mae’n cael triniaeth yn yr ysbyty ac mewn “cyflwr sefydlog ond yn ddifrifol wael”.

Roedd yn Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2011 a 2016 ac yn Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn 2019.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Jane Dodds bod y blaid yn “torri ein calonnau o glywed am gyflwr Bill ac mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’i deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd yma.”

Ychwanegodd: “Ry’n ni’n gwybod ei fod yn cael y gofal orau posib gan staff y gwasanaeth iechyd sy’n gweithio mor galed ac rydym yn gobeithio y bydd yn cael gwellhad buan.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Llawer o ddiolch i bawb sydd wedi cysyllti i ddymuno gwellhad buan i William. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr. Dw i’n siŵr y bydd pawb eisiau i ni barchu preifatrwydd ei deulu yn ystod y cyfnod anodd yma.”