Mae deg yn rhagor o bobol wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru.

48 yw’r cyfanswm erbyn hyn, yn ôl ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n debygol o fod yn anghyflawn oherwydd y ffordd anghyson mae achosion yn cael eu cofnodi.

Mae 1,241 o achosion bellach wedi’u cadarnhau yng Nghymru, a 148 o achosion newydd dros y 24 awr diwethaf.

Dydy Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim wedi cyhoeddi manylion y rhai fu farw.

Ble mae’r achosion?

Yn ôl ffigurau sydd wedi’u casglu, fe fu:

  • 514 o achosion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • 282 yng Nghaerdydd a’r Fro
  • 125 yn ardal Bae Abertawe
  • 124 yng Nghwm Taf
  • 75 yn Hywel Dda
  • 69 yn Betsi Cadwaladr; a
  • 20 ym Mhowys