Mae Comisiynydd Heddlu’r Gogledd wedi beirniadu “agwedd cwbl haerllug, di-dostur a di-feddwl” dyn sydd wedi’i ddal ar gamera yn taflu rhybudd am y coronafeirws dros wal ger Y Felinheli.

Cafodd y digwyddiad ar gyrion y pentref ei ffilmio a’i roi ar Twitter gan Gruff John, sy’n dweud fod yr unigolyn “ddim yn keen ar safio bywydau yn amlwg”.

Mae’r fideo wedi’i hoffi a’i ail-drydar gannoedd o weithiau, gan gynnwys gan Arfon Jones ei hun.

Ac wrth siarad â golwg360, mae’n dweud bod gweithred y dyn yn y fideo, sy’n cael ei enwi mewn sylwadau ond sydd heb ei gadarnhau, yn “ddi-feddwl o’r sefyllfa rydan ni i gyd ynddi”.

“Mae ’na leihad mawr wedi bod yn y nifer o bobol sydd wedi trafaelio i gefn gwlad yr wythnos yma o’i gymharu â’r penwythnos dwytha’,” meddai.

“Mae ’na dal bobol yn dod ac yn cael eu troi ’nôl gen yr heddlu a chael rhybuddion o hyn ymlaen.

“Mae ’na dal waith i’w wneud.”

Wfftio’r dryswch

Ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, a’i lywodraeth gyhoeddi gorchymyn yn gofyn i bobol beidio â theithio oni bai bod gwir rhaid, mae Arfon Jones yn wfftio’r ansicrwydd a’r dryswch honedig ynghylch beth all pobol ei wneud a beth sydd wedi’i wahardd.

Mae’r cyngor yn dweud na ddylai pobol deithio oni bai eu bod nhw’n mynd i helpu pobol fregus neu’n mynd i siopa am nwyddau hanfodol.

Dylai unrhyw un sy’n gwneud ymarfer corff osgoi gyrru i rywle o’u cartrefi.

Yn ôl Arfon Jones, mae’r neges yn gwbl glir.

“Dwi’n meddwl fod o i gyd yn synnwyr cyffredin,” meddai.

“Pwrpas y ddeddfwriaeth yma i gyd ydi hunanynysu.

“Os ydyn nhw’n gneud rhywbeth sy’ ddim yn hunanynysu, trafaelio’n ddiangen a hyn i gyd, maen nhw’n rhoi eu hunain a phobol eraill mewn risg.

“Os dyn nhw ddim yn dallt be’ yn union ydi o, a dwi’n meddwl fod o’n eitha’ clir, mae ’na ddeddfwriaeth yng Nghymru ac yn Lloegr ac mae’n deud yn glir be’ mae pobol yn gallu gneud a ddim yn gallu gneud.

“Os ydyn nhw isio gwybod mwy, mae ’na wefannau alla nhw fynd arnyn nhw, neu allan nhw gysylltu am wybodaeth efo’r awdurdodau a’r cynghorau sir, yr heddlu, y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae ’na lefydd lle gallan nhw gael cyngor.

“Dwi’n meddwl, os gwnewch chi ychydig o ymchwil, fedrwch chi ffeindio allan yn eitha’ sydyn be ’dach chi’n gallu neu ddim yn gallu gneud.”