Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi cynllun i gynnal profion gwaed os yw pobol wedi’u hamau o fod wedi’u heintio â’r coronafeirws.

Bwriad y profion clyfar yw helpu pobol i ddychwelyd i’r gwaith os ydyn nhw wedi bod i ffwrdd am gyfnod yn sgil ofnau bod ganddyn nhw’r feirws.

Bydd y prawf yn cael ei dreialu yng ngwledydd Prydain yr wythnos nesaf, ond fydd pobol sydd heb ddangos symptomau neu sydd ddim yn byw â rhywun â symptomau ddim yn gallu cael y prawf.

Mae staff y Gwasanaeth Iechyd eisoes yn cael y prawf hwn ers rhai wythnosau, ac mae disgwyl iddo gael ei ymestyn i gynnwys gweithwyr allweddol eraill, gan gynnwys y gwasanaethau brys eraill a gweithwyr gofal cymdeithasol.

Ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd lle mae clystyrau mawr o’r feirws, gan gynnwys ysbytai a charchardai.

Cynyddu capasiti

Yn ôl Vaughan Gething, bydd y prawf yn “gam enfawr ymlaen” yn y frwydr yn erbyn y feirws yng Nghymru.

Yn hytrach na chynnal 800 o brofion bob dydd, fe fydd modd cynnal 1,100 a bydd hynny’n codi eto i 5,000 erbyn canol mis nesaf.

Fe fu’n anodd dweud yn union faint o bobol sydd wedi’u heintio ac wedi marw gan nad yw’r cofnod bellach yn fanwl gywir.

“Bydd y prawf gwrthgorffynnau newydd yn gam enfawr ymlaen i’n helpu ni i ymateb i’r coronafeirws,” meddai Vaughan Gething.

“Bydd yn helpu ein gweithwyr allweddol ni – yn enwedig staff rheng flaen y GIG a gwasanaethau cymdeithasol – i ddychwelyd i’r gwaith ar unwaith, a darparu gofal sy’n achub bywydau.

“Mae’r prawf newydd hwn yn hanfodol er mwyn rhoi hyder iddyn nhw ac i’w cadw’n ddiogel wrth iddyn nhw weithio i gadw pawb arall yn ddiogel.”