Fe fydd Ffred a Meinir Ffransis yn cael gadael Periw heddiw (dydd Sul, Mawrth 29).

Maen nhw ymhlith nifer fawr o bobol o wledydd Prydain sydd wedi bod yn sownd yn y wlad yn sgil y coronafeirws.

Mae Ffred Ffransis wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Prydain, ac yn enwedig yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab, gan ddweud bod eu hymateb i’r sefyllfa ym Mheriw yn “amaturaidd”.

Fe ddywedodd fod y sefyllfa’n “dangos na all Dominic Raab barhau i fod yn Ysgrifennydd Tramor”.

Mewn fideo a gafodd ei ryddhau ar gyfrif Trydar Ffred Ffransis, dywed Meinir Ffransis fod “popeth yn mynd lan a lawr, mae ein gobeithion ni’n codi ac wedyn wrth gwrs mae’r llywodraeth fel petaen nhw’n gwneud llanast o bopeth a ni’n teimlo siom”.

“Bydden i’n erfyn ar bobol am y tro diwethaf gobeithio i wthio’r ddeiseb, ei rannu fe gyda phawb chi’n adnabod, dwy funud mae e’n cymryd a byddwn i’n gwerthfawrogi’n fawr,” meddai wedyn.

Postiad ar Facebook

Daeth cadarnhad o ymadawiad y cwpl â Pheriw mewn neges ar dudalen Facebook Meinir Ffransis neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 29).

“Bydd Ffred a fi a nifer eraill yn gadael Cusco am 6.30 bore fory (amser Peru) a’n gobeithio cyrraedd Heathrow fore Llun,” meddai’r neges.

“Teimlade cymysg am fod her fawr yn wynebu pawb yng Nghymru fel bob man arall, ond diolchgar a hynod hapus ein bod yn cael dychwelyd xx.”

Cefndir

Caeodd Periw ei holl ffiniau ar Fawrth 15, gyda dim ond 24 awr o rybudd – dim digon o amser i nifer o bobol drefnu trafnidiaeth o’r wlad gan fod pob hediad yn llawn.

Roedd hyn yn golygu nad oedd gan filoedd o bobol ffordd o adael y wlad, gan gynnwys 400 o ddinasyddion gwledydd Prydain.

Ar hyn o bryd, mae Ffred a Meinir Ffransis yn nhref Cusco, sydd yn daith o dros ugain awr ar fws i’r brifddinas Lima.

Does dim modd iddyn nhw gyrraedd Lima, yr unig le mae hediadau’n cael gadael y wlad.