Mae Childline Cymru wedi cynnal 80 a mwy o sesiynau gyda phlant sy’n eu ffonio yn poeni am y pendemig coronafeirws.

Mae gan yr elusen weithwyr yn ateb galwadau gan blant o Gymru ym Mhrestatyn a Chaerdydd, ac mae eu gweithwyr wedi cael statws ‘hanfodol’ gan Lywodraeth Cymru oherwydd bod eu gwasanaeth mor bwysig.

Drwyddi draw yng ngwledydd Prydain mae’r elusen wedi cynnal dros 900 o sesiynau cynghori i blant sy’n gofidio yn benodol am y coronafeirws – gyda’r mwyafrif yn cael eu cynnal yr wythnos ddiwethaf.

“Mae’r newyddion 24/7 ynghylch coronafeirws yn achosi llawer o ofid a phryder ymysg pobol ifanc – yn enwedig y rhai hynny sydd eisoes yn ceisio dod i delerau gyda materion eraill yn eu bywydau,” meddai Debs Davies sy’n rheoli gwasanaeth Childline ym Mhrestatyn.

Bu “cynnydd enfawr” yn y nifer o sesiynau cynghori sy’n ymwneud â’r pandemig coronafeirws dros y saith diwrnod diwethaf, yn ôl yr elusen.

Bu i ddau draean o’r sesiynau gael eu cynnal rhwng Mawrth 16 a Mawrth 22, wrth i ysgolion gau a phobl ddechrau gweithio o adref.

O’r rhain, roedd dros 50 o’r sesiynau yn delio â phlant oedd yn cael meddyliau hunanddinistriol sydd yn cael eu gwaethygu gan y gofidion am y feirws.

Ar Fawrth 18, cynhaliodd y gwasanaeth 121 o sesiynau.

Statws hanfodol

Mae’r Llywodraeth wedi rhoi statws gweithwyr hanfodol i staff Childline fel eu bod yn gallu parhau i gynnig y gwasanaeth dros yr wythnosau nesaf.

Mae dros hanner y plant sydd wedi derbyn sesiynau yn dweud eu bod yn poeni am eu hiechyd meddwl tra maen nhw’n wynebu hunan ynysu, dadleuon gartref a gweld eisiau cefnogaeth gan ysgolion.

“Mae pobl ifanc yn gallu ei gweld hi’n anodd i ranni eu gofidion gyda’u rhieni, felly mae hi’n bwysig bod teuluoedd yn siarad am eu teimladau gyda’i gilydd,” meddai sylfaenydd Childline, Esther Rantzen.

“Rydym yn clywed am blant sydd wedi colli mynediad i rwydweithiau cefnogaeth hanfodol megis ysgolion, a ffrindiau, ac mae hynny wedi cynyddu teimladau o unigrwydd a bregusrwydd.

“Mae’n bosib bod gan rai ohonynt broblemau iechyd meddwl eisoes sydd yn gwaethygu oherwydd yr argyfwng.”

DYMA fideo o Cecile Gwilym, un o wirfoddolwyr Childline Cymru, yn son am y cymorth sydd ar gael i blant a phobol ifanc ar hyn o bryd: