Mae Heddlu’r De yn chwilio am ddyn 51 oed sydd wedi bod ar goll ers Mawrth 10, pan oedd e mewn gwrthdrawiad ym Mhenrhyn Gŵyr.
Does neb wedi gweld Michael Chalk ers tua 8 o’r gloch y noson honno, pan oedd e’n teithio mewn car oedd wedi bwrw wal yn ardal Parkmill.
Dydy’r heddlu ddim yn credu iddo gael ei anafu yn y digwyddiad, ond fe gafodd ei weld yn dilyn y gwrthdrawiad yn cerdded i gyfeiriad Oxwich.
Ar y pryd, roedd e’n gwisgo top llwyd.
Mae ei deulu’n gofidio amdano.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.