Mae papurau bro traddodiadol yng Nghymru yn wynebu sefyllfa argyfyngus o ganlyniad i’r coronafeirws.

Ers y 70au a’r 80au, mae papurau bro ledled Cymru wedi bod yn cyflawni’r gwasanaeth pwysig o gadw cyswllt rhwng pobol ein bröydd a chyhoeddi straeon am ein ffordd o fyw.

Ar ôl i sawl papur bro gysylltu â Bro360 dros y diwrnodau diwethaf, mae’r prosiect peilot gan gwmni Golwg yn awyddus i gynnig rhai atebion allai helpu papurau bro i gyhoeddi’n ddigidol.

Trwy gyhoeddi’r papurau bro ar-lein yn y tymor byr, mae Bro360 yn gobeithio gallu cynnal y momentwm a’r diddordeb ar gyfer y tymor hir – pan fydd modd i bob papur ailddechrau argraffu, plygu a dosbarthu eto.

Cefndir Bro360

Ar hyn o bryd, mae Bro360 yn canolbwyntio’n benodol ar ddwy ardal yng Nghymru – Arfon a gogledd Ceredigion ac mae bröydd yn yr ardaloedd hynny eisoes wedi creu gwefannau straeon lleol newydd.

Mae’r gwefannau hyn yn gweithio ochr yn ochr â phob un o’r papurau bro unigol, ac mae tîm Bro360 yn cynnig cymorth technegol ac ysgogiad parhaus i’r cyfranogwyr lleol allu cyhoeddi’n amlgyfrwng.

Am ragor o wybodaeth am sut gall Bro360 fod o gymorth i’ch papur bro chi, ewch i wefan Bro360.