Fydd Ffred a Meinir Ffransis ddim ymhlith dinasyddion gwledydd Prydain fydd yn cael eu cludo adref o Beriw ar awyren heddiw (dydd Mercher, Mawrth 25).
Mae’n debyg bod oddeutu 200 o ddinasyddion wedi cael gwybod bod sedd ganddyn nhw ar hediad fydd yn gadael Lima am 2.30yp.
Mae Ffred Ffransis eisoes wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fod yn “amaturaidd” yn eu hymateb i sefyllfa dinasyddion Prydain ym Mheriw.
Dywedodd ar Twitter ers hynny fod “y bennod yma’n dangos na all Dominic Raab barhau i fod yn Ysgrifennydd Tramor”.
Deiseb
Mae’r cwpl bellach yn annog pobol i arwyddo deiseb sy’n galw ar yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab i helpu wrth drefnu hediadau i ddinasyddion gwledydd Prydain sy’n dal ym Mheriw.
Mae’r ddeiseb wedi denu cwta 43,000 o lofnodion hyd yn hyn.
Mewn fideo a gafodd ei ryddhau ar gyfrif Trydar Ffred Ffransis, dywed Meinir Ffransis fod “popeth yn mynd lan a lawr, mae ein gobeithion ni’n codi ac wedyn wrth gwrs mae’r llywodraeth fel petaen nhw’n gwneud llanast o bopeth a ni’n teimlo siom”.
“Bydden i’n erfyn ar bobol am y tro diwethaf gobeithio i wthio’r ddeiseb, ei rannu fe gyda phawb chi’n adnabod, dwy funud mae e’n cymryd a byddwn i’n gwerthfawrogi’n fawr.”
Mae Ffred Ffransis hefyd yn dweud ar Twitter bod “angen cytundeb rhyngwladol i sicrhau nad yw unigolion bregus yn dioddef achos mesurau argyfwng.”
Cefndir
Caeodd Periw ei holl ffiniau ar Fawrth 15, gyda dim ond 24 awr o rybudd – dim digon o amser i nifer o bobol drefnu trafnidiaeth o’r wlad gan fod pob hediad yn llawn.
Roedd hyn yn golygu nad oedd gan filoedd o bobol ffordd o adael y wlad, gan gynnwys 400 o ddinasyddion gwledydd Prydain.
Ar hyn o bryd, mae Ffred a Meinir Ffransis yn nhref Cusco, sydd yn daith o dros ugain awr ar fws i’r brifddinas Lima.
Does dim modd iddyn nhw gyrraedd Lima, yr unig le mae hediadau’n cael gadael y wlad.